3 [333] cynydd cerdd bvn o vnflwydd
4 coeg yw vn dyfiad cyw gwydd
5 nid llai vrddas heb ras rydd
6 no gwawd gevwawd o gywydd
7 cair irddelw cywir ddolef
8 cywydd gwiw ofydd gwae ef
9 vn ai cas arall ai cant
10 enw gwarthgas vn ai gwrthgant
19 hwn ai teifl hyn oed diflas
20 hen faw ci honi foi cas
11 telyn ni roddid dwylaw
12 ar i llorf glaeargorf glaw
13 ni warafyn byn o bydd
14 i chyfedd gidai chowydd
17 yn nhafarn cwrw anhyfvl
18 tinker ai can wrth fol tankr cvl
21 cwrach memrwn wefl dwn waith
22 ir dom a fwriwyd ymaith
25 diddestl wrth i fedyddiaw
26 i benill ef bin a llaw
27 byr a chas i barnassam
28 beiaw cerdd lle ni bo cam
29 cam acken yr awenydd
30 draw im diswyddaw y sydd
31 gryffydd ddigydd ymddygiad
32 fab cynfrig wendedig dad
33 gwandaer hygarwch gwndyd
34 gwyrodd oi benn gerdd y byd
59 crair pob ffair ffyrf gweheirdd
60 cryglyfr bost craig lefair beirdd
39 [334] ni chan bardd yma i hardd hin
40 gywydd gidai ddeg ewin
41 na wna gryffydd brydd o braw
42 gwedd erthwgh gowydd wrthaw
43 pawb a wnai adail pybyr
44 ochaid gwydd ag iechyd gwyr
45 haws yw cael llei bo gwael gwydd
46 siwrnai dwfn saer na defnydd
47 o myn wawd rwydd dawd evrdof
48 aed ir coed i dorri cof
49 nid tra chyfrwys lwys lysenw
50 ywenydd clod hynod henw
51 a fai raid ofer edav
52 i ddevnydd i gywydd gav
53 ai law ar ganllaw geinllwyr
54 rhydain hen i rhed yn hwyr
55 caned fardd i ael harddlvn
56 gywydd oi henwydd i hvn
57 rhoddaf anwylaf yn ol
58 rybydd i ryffydd ryffol
61 taled y mab ataliaith
62 tol am wawd tal ym oi waith
dafydd ap gwylym ai cant